Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg | Inquiry into Welsh in Education Strategic Plans

 

WESP 24

Ymateb gan : Cyngor Bwrdeistref Sirol

Response from : Conwy County Borough Council

Cwestiwn 1 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?

Ydynt.Mae  Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg  yn cyfrannu’n effeithiol o fewn ein hawdurdod ni.  Mae cryn waith wedi cael ei gwblhau i greu cynllun strategol effeithiol a heriol sy’n ateb gofynion y Llywodraeth yn llawn.

 

Mae’r cynllun strategol o ganlyniad ar lefel ysgol wedi bod yn allweddol wrth i ni newid cyfrwng categori iaith ein hysgolion cynradd   ers 2010 gan gynyddu yn sylweddol erbyn hyn y nifer o ysgolion sydd wedi symud o gategori 5 i 4.

 

 Mae’r cynlluniau strategol hefyd wedi bod yn allweddol i’n hysgolion uwchradd a’i cynlluniau ar lefel ysgol wedi bod yn allweddol wrth iddynt gynyddu y nifer o ddisgyblion sydd yn dilyn mamiaith wrth drosglwyddo o CA2 i CA3.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys hyn?

 


 

Cwestiwn 2 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?

Ydynt .  Yng Ngonwy maent wedi eu ymgorffori yng ngwaith strategol yr ALl ac ysgolion yr ALl.

 

 Mae’r categoreiddio ym Mholisi Iaith diweddaraf yr ALl hefyd yn adlewyrchu hyn.

 

Rhaid cofio fod natur pob Awdurdod yn wahanol , ac o’r herwydd bod angen modelau gwahanol i ymateb i’r galw, e.e. yng Nghonwy mae’r twf yn digwydd o fewn ysgolion sydd yn newid o fewn neu rhwng categoriau iaith mewn ymateb i Bolisi Iaith diweddaaraf yr Awdurdod. Felly newid graddol dros gyfnod o amser fydd yn digwydd, fel y nodir yn y Strategaeth

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?

 

Cwestiwn 3 - Beth yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?

Rhaid gosod targedau heriol ar gyfer pob Awdurdod , ond mae’n bwysig hefyd ei bod yn realistig ac yn gyraeddadwy.  Rhaid cofio bod pob Awdurdod yn amrywio’n fawr ac felly bydd y targedau yn amrywio hefyd.

 

Er mwyn llwyddo bydd rhaid i’r Llywodraeth godi proffil Strategaeth y Gymraeg a buddsoddi llawer mwy o arian er mwyn gwireddu pob cynllun.  Bydd rhaid i’r ysgolion gael arian i fuddsoddi yn ei darpariaeth.  Mae’n amhosibl gwireddu unrhyw Gynllun o safbwynt targedu, cefnogi a monitor heb gefnogaeth arianol. 

 

Mae cynnwys y Gymraeg yn y grant Gwella ysgol yn peri pryder ble mae gwireddu Cynllun Strategol y Gymraeg Sir Conwy yn y cwestiwn.


 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Dylid rhoi arian arwahan , a hynny yn swn sylweddol er mwyn datrys y problemau sydd ynghlwm a gwireddu y Cynlluniau Strategol.

 

 Dylid hefyd edrych ar natur a chefndir pob Awdurdod. Dylid buddsoddi mwy yn yr ardaloedd hynny sydd eisiau cynyddu’r disgyblion o fewn ei hawdurdod sydd yn dilyn Cymraeg mamiaith.

Cwestiwn 4 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?

Does dim dewis.  Rhaid bod y cynlluniau, strategaethau, deddfwriaeth a pholisïau’n tynnu i’r un cyfeiriad.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Cwestiwn 5 - Yn eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel?

Ydyn os ydynt yn cael eu defnyddio law yn llaw a blaenoriaethau a grantiau eraill , ond dyma ble mae rôl yr All yn allweddol o ran cynllunio, targedu a monitro perfformiad pob ysgol.

Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?

 


 

Cwestiwn 6 - Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

Mae’r Cynllun strategol a’r grant gysylltiedig wedi bod yn allweddol bwysig i ni fel Awdurdod wrth gynyddu y nifer o ddisgyblion sydd yn derbyn eu haddysg drwy’r Gymraeg.  Byddwn yn awyddus i weld parhad yn hyn.  Byddwn hefyd yn dymuno gweld mwy o arian yn cael ei fuddsoddi er mwyn gwireddu ein Cynllun , yn enwedig felly yn yr Awdurdodau hynny ble mae llawer o waith i’w wneud i symud ein hysgolion i fyny y Categoriau ieithyddol.

Cwestiwn 7 - A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?

Mae sefyllfa pob ALl, pob ysgol yn wahanol iawn. Rhaid cymryd hyn i ystyriaeth.  Mae angen hyblygrwydd yn y Strategaeth er mwyn adlewyrchu hynny.  Mae’r her a’r llwyddiant yn y Cynllun yn cael ei weld a’i ddehongli yn wahanol yn dibynnu ar cyd-destun ieithyddol, daearyddol a chymdeithasol yr ALl a’i hysgolion.